Deiseb byrddau hysbysebu / Notice board petition

by cymrusofren

Deiseb yn galw am system o fyrddau hysbysebu ar draws Cymru, yn hysbysu pawb o’i  cynrychiolwyr etholedig /Petition for notice boards to be placed around Wales notifying all of their political representatives locally and nationally

https://www.assemblywales.org/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=822

Geiriad llawn/full text:

Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu system genedlaethol i osod hysbysfyrddau cyhoeddus mawr (tua 5×4 troedfedd fel enghraifft) ym mhob awdurdod lleol a ward etholiadol Cymru, yn rhoi gwybod yn glir i bawb pwy yw eu Cynghorwyr ac Aelodau Cynulliad lleol, ac yn cynnwys gwybodaeth glir am sut, ble a phryd y gellir cysylltu a chyfarfod â hwy i gyd, a gwybodaeth reolaidd a diweddar am ble a phryd y cynhelir holl gyfarfodydd y cyngor lleol.

Mae gwir angen i bobl gael gwybod pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol ar bob lefel, gyda hysbysfyrddau sy’n cynnwys gwybodaeth glir ac eglur wedi’u lleoli’n ganolog ym mhob awdurdod lleol a ward etholiadol Cymru. Gellid hefyd ystyried rhoi oriau a lleoliadau cymorthfeydd, a chyfarfodydd y cyngor o bosibl, i gael eu safoni ledled Cymru (e.e. 1-3pm ar ddydd Sadwrn cyntaf pob mis mewn canolfannau cymunedol lleol ledled Cymru fel enghraifft gyffredinol) fel y gall pobl ryngweithio a chysylltu â’u cynrychiolwyr yn fwy effeithiol. Bydd hyn i gyd yn annog dinasyddion Cymru i ymwneud yn fwy â democratiaeth eu gwlad a’u cymunedau.

__________________________________

Public noticeboards across Wales notifying the public of who all their political representatives are

We call on the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government to develop a national system of placing large public notice boards (of 5×4 foot or so as an example) across all the local authorities and electoral wards of Wales, clearly notifying everyone who their local Councillor/s and AM’s are, together with clear information on how, where and when all of these can all be contacted and met and with regular and updated information on when and where all local council meetings are held.

There is a real need for people to be clearly notified of who their political representatives are at all levels, with clear well laid out informative notice boards centrally placed in all the local authorities and electoral wards of Wales. Consideration could also be given for surgery hours and locations, and possibly council meetings, to be standardised around Wales (e.g. 1-3pm of every first Saturday of the month at local community centres all across Wales as a generic example) so that people can interact and connect with their representatives more effectively. This will all encourage the citizens of Wales to have better involvement in the democracy of their country and communities