Llythyr i ‘Dyfodol i’r iaith’

by cymrusofren

This is a copy of a letter that was recently sent to the new independent Welsh language lobbying group ‘Dyfodol i’r iaith’, urging the group to lobby for the Welsh language to be offered as a language subject option on the English education curriculum at key stages, with the indigenous Celtic history of Britain also being taught as a compulsory part of the history programme. Looking at the English curriculum, there is not one single mention of the Celtic Brythonic origins of Britain – the history of Britain seems to start in the Middle ages at around 500AD with the first invasions of Anglo Saxons. This is sadly largely true of the Welsh curriculum as well (sign Welsh Assembly Celtic history petition here: https://www.assemblywales.org/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=680 )

Welsh is a native language belonging to Britain as well as to Wales itself, and is the second most spoken native language in Britain today, and, after Punjabi, the third most spoken in general – an amazing testimony to the pliability and durability of the Welsh language and Wales in general. There are more Welsh speakers in the whole of Britain than Bengali, Urdu, Cantonese and Polish speakers, with Wales having a total of 761,000 speakers – 611,000 in Wales and around 150,000 in England and Scotland. Bengali has around 700,000 speakers (if including Sylheti), Urdu around 400,000 and Cantonese 250,000 speakers. If French, German, Spanish, Arabic, Italian, Japanese, Chinese Mandarin, Hebrew, Russian, Spanish, Urdu and Bengali are offered on the English curriculum then so should Welsh.

There is an increasing interest in the Celtic Brythonic language and history of Britain and its place within an European and international context – a history which thus far has been negligently ignored by history curriculums. With American English becoming a dominant international behemoth, why shouldn’t all the people of Britain be offered the option of learning and enjoying the language that derives from the indigenous language of Britain as well as all the other native tongues such as Scottish Gaelic, Scots and Cornish – something which their education programmes has thus far denied them. The largely phonetic style of Welsh writing (and Wenglish ) can also greatly help and influence language learning and development in general, with Welsh phoneticism already having an influence on modern, increasingly more phonetic modes of communication. https://sovereignwales.com/manifesto/#pwynt2

………………………………………………………………………………………………

Medi 12 2012

Annwyl ddarllennydd/Dyfodol i’r iaith,

Llongyfarchiadau ar y mudiad newydd ag ar eich lawnsiad yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn mis awst – roedd hi’n bleser cael bod yno i weld y mudiad annibynnol yma yn cael ei lawnsio yn swyddogol. Pwrpas y llythyr yma yn syml iawn ydi awgrymu syniad/cyfeiriad i Dyfodol i’r iaith. Buodd y ddau ohonom yn trafod y pwnc yn ddiweddar ag un o ganlyniadau’r sgwrs oedd y dylid,yn syml, gynnig i ysgolion ag awdurdodau Lloegr y syniad eu bod yn cynnig dysgu Cymraeg fel ail iaith ar y cwricilwm. Os mai penderfyniad i adran addysg ganolog Lloegr fyse hyn,yne gellid ei targedu a dwyn pwysau arny nhw yn ogystal a’r awdurdodau lleol. Efallai y bydde hefyd modd cyfuno y gwersi Cymraeg gyda dysgu gwir hanes Ewropeaiddd Celtaidd Prydain.

Gan fod y Gymraeg yn hannu o iaith frodorol Prydain, yn ail iaith frodorol fwyaf poblogaidd Prydain gyda 761,000 o siaradwyr, a’r drydedd fwyaf poblogaidd yn gyffredinnol ym Mhrydain ar ol Punjabi, mae’n anodd gweld sut y gall swyddogion addysg Lloegr wrthod ystyried y syniad. Os ydi Punjabi, Bengali, Urdu, Almaeneg a Pwyleg yn cael ei ddysgu dros Brydain pam ddim y Gymraeg hefyd? Ag os gwrthodir y syniad fel pwnc ar y cwricilwm , efallai y bydde’n werth trio hybu y peth yn gymunedol a lleol mewn ardaloedd sbesiffic i ddechre.

Mae’r ffigwr o 761,000 o siaradwyr Cymraeg ym Mhrydain, a’r ffaith fod y Gymraeg yn dal yn un o brif ieithoedd modern Prydain yn destament anhygoel i ddycnwch y Gymraeg oddi fewn Cymru a Prydain. Mae tua 600,000 o Gymry yn byw yn Lloegr, gyda canran o oddeutu 133,00 o’r rhain yn siaradwyr Cymraeg yn ol pol wnaeth S4C nol yn 1993 ( er fod rhai polau yn dangos ffigwr cyfoes o 150,000) Mae hefyd cymdeithasau Cymraeg a Chymreig modern a chyfoes ar hyd a lled Lloegr, yn cynnwys LLunden wrth gwrs. Dwi’n siwr nad oes angen mynd mewn i hanes Brythoneg/Cymraeg cynnar fel iaith frodorol Prydain , yn cynnwys Lloegr, na’r ffaith fod Cymraeg fel iaith frodorol, neu agweddau ohoni oleia, yn dal ar gof a chadw mewn ardaloedd o Cumbria a’r gororau hyd at heddiw. Byddai’n ddiddorol iawn gweld be fydde’r ymateb yn y gwahanol ardaloedd yma megis Cumbria/ gogledd orllewin Lloegr a siroedd y gororau ar ochor Lloegr, fel mannau i gyflwyno’r Gymraeg fel opsiwn.

Ein teimlad yn gyffredinnol yw fod gwir ewyllus da a diddordeb diwylliannol yn bodoli at yr iaith yn Lloegr a thu hwnt erbyn hyn, ac yn enwedig yn yr ardaloedd a nodir uwchben – ewyllus da nad yw prif gyfryngau LLoegr,am resymau gweddol amlwg, am roi sylw iddynt neu eu cydnabod. Mae engraifft o feddylfryd positif tuag at ieithoedd brodorol Prydain i’w weld yn y safle we yma: http://www.jandesociety.com/Britishness.html , sydd hefyd yn annog fod holl amrywiaeth ieithyddol brodorol Prydain megis Cymraeg, Gaeleg yr Alban, Scots, Cernyweg, Gwyddeleg a Ulster Scots yn ngogledd Iwerddon, yn ogystal a Saesneg yn gyffredinnol, yn cael ei dysgu a’i hastudio yn holl wledydd yr ynys a Gogledd Iwerddon.

Gan gysidro nad ydi’r Saesneg yn iaith frodorol mewn aml i ardal o Loegr erbyn hyn, ag fod Saesneg Americanaidd/rhynglwladol wedi ryw fath o gymud drosodd, efallai fod hwn yn amser da i gynnig i weddill pobol Prydain i gymud mwy o ddiddordeb yng ngwir iaith frodorol Prydain, helpu eu dealltwriaeth o hanes cyfoethog yr ynys a’i gwahanol werthoedd,a rhoi’r cyfle iddynt fynegi ei hunen mewn iath unigryw wahanol.

Gobeithio fydd y llythyr yma o ddiddordeb i chi. Byse’n dda clywed unryw ymateb, barn neu sylw ganddoch.

Yn gywir,

Gruffydd Meredith
Owain Meredith

Advertisements