Deiseb Cymraeg clir / Plain English petition

Deiseb yn galw am bolisi Cymraeg clir – Plain English swyddogol / Petition for an official Plain English – Cymraeg clir policy

https://www.assemblywales.org/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=823

Geiriad llawn/full text:

Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisi Cymraeg Clir/Plain English ar gyfer ei holl gyfathrebiadau, a hefyd rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi o’r fath fel bod yr iaith a ddefnyddir yn glir ac yn ddealladwy bob amser.

Mae siarad dwbl, iaith gyfreithiol ddiangen a defnyddio acronymau a jargon annealladwy, ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar yn Siambr y Senedd, yn atal gwleidyddiaeth yng Nghymru rhag bod mor gynhwysol a hygyrch ag y dylai fod. Byddai polisi iaith glir yn helpu i annog mwy o ddiddordeb a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth Cymru ymysg pawb. Dylai’r polisi hefyd fod yn gymwys i ddogfennau cyfreithiol/Biliau/Deddfau cyhyd â’u bod yn parhau i fod yn gyfreithiol gadarn. Fel enghraifft dda o gyfathrebiad dealladwy a chlir, gellid defnyddio templed Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr fel templed Cymraeg cyfatebol i dempled Plain English, fel bod y defnydd o’r Gymraeg, p’un a gaiff ei defnyddio mewn adroddiadau gwreiddiol neu ddeunydd wedi’i gyfieithu, yn berthnasol, modern a dealladwy, ac nid yn gyfieithiad llythrennol, annealladwy a slafaidd o’r geiriadur o’r fersiwn Saesneg. Mae dyletswydd ar y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob penderfyniad llywodraethu sy’n effeithio ar Gymru yn ddealladwy i bawb, pa bynnag iaith a ddefnyddir.

________________________________________

A plain English /Cymraeg clir policy for all Welsh Assembly and Government communications

We call on the National Assembly for Wales to develop a plain English/Cymraeg Clir policy for all their communications, and separately call on the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government to develop such a policy so that the language used is clear and understandable at all times.

Double speak, unnecessary lawyer speak and the use of acronyms and unintelligible jargon, both in written form and verbally in the Senedd chamber, discourages politics in Wales from being as inclusive and accessible as it should be. A plain language policy would help to encourage more interest and participation in the politics of Wales by all. The policy should also apply to legal documents/bills/acts as long as they remain legally sound. As a good example of clear understandable communication, Canolfan Bedwyr’s Cymraeg clir template could be used as the Welsh language equivalent to the plain English template, so that the use of Welsh, whether in original reports or as translated material, is relevant, modern and understandable, and not merely a literal unintelligible slavish dictionary translation of the English version. There is a duty on the Assembly and Government of Wales to make sure all governing decisions affecting Wales are understood by all, whatever language is used.

baner_cc2

Advertisement