Deiseb gwahardd GM / Petition to ban GM in Wales

E-ddeiseb:Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu, cyn belled ag y mae hynny’n gyson â chyfraith yr UE, Ddeddf sy’n gwahardd unrhyw fwyd, planhigion a hadau GM rhag cael eu tyfu a’u gwerthu yng Nghymru, yn ogystal ag organebau a addaswyd yn enetig a ddefnyddir mewn unrhyw borthiant anifeiliaid, anifeiliaid hela a physgod.

Mae sofraniaeth bwyd ac iechyd yn fater hollbwysig i ddyfodol Cymru a’r byd ac mae’n rhywbeth a fydd yn gwahaniaethu cynhyrchion bwyd o Gymru ymhellach, mewn ffordd gadarnhaol, yn y farchnad fyd-eang.

Fel y dangoswyd gan y gwaith gwych a wnaed gan GM Free Cymru a gwyddonwyr allweddol fel Irina Ermakova, yr Athro Vyvyan Howard a Malcolm Hooper, Dr Stanley Ewen, Dr Arpad Pusztai, Manuela Malatesta a chydweithwyr ym Mhrifysgolion Pavia ac Urbino yn yr Eidal ymhlith rhai eraill, mae tystiolaeth ddiymwad ar gael erbyn hyn am beryglon cynhenid bwydydd GM.

Datganodd Dr Brian John GM Free Cymru : “Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ymddangos yn hynod awyddus i gyhoeddi un adroddiad dadleuol ar GM ar ôl y llall , gan seilio ei penderfyniadau ar ymchwil dethol iawn a gan  ddangos tuedd gan yr ymgeiswyr eu hunain, a chymryd cyfarwyddyd gan awdurdod diogelwch bwyd Ewropeaidd sydd wedi colli hyder Ngo’s a grwpiau defnyddwyr ar draws Ewrop.”

Mae’n amlwg fod gwleidyddion yn hyrwyddo rhinweddau’r cwmnïau biotechnoleg mawr megis Monsanto er gwaethaf lleisiau cyhoeddus a gwyddonol gwrthwynebol. Mae ymyrryd a natur ac ymyrryd drwy beiriannu genetig hefyd yn weithred yn erbyn natur ei hun ac yn codi cwestiynnau ynglyn a moesoldeb , moeseg naturiol a hawliau dynol . Mae nifer cynyddol o wledydd fel Hwngari , Awstria , Gwlad Groeg , Gwlad y Basg a Periw , i enwi ond ychydig , yn awr yn cael gwared o gwmniau enfawr  cemegol a bio dechnolegol megis Monsanto, a dileu holl gnydau GM , hadau, planhigion a bwydydd yn eu gwlad . Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth yng Nghymru .

Plis arwyddwch yma:

https://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=983

___________________________________________________

e-Petition:Ban all Growing and Selling of all GM seeds / Foods and Animal / Fish Feed in Wales

We call on the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government to establish, as far as that is consistent with EU law, an Act banning all GM food, plants and seeds from being grown and sold in Wales, as well as GMO used in all animal, game and fish feed.

Food sovereignty and health is a crucial issue to the future of Wales and the world and is something that will further positively distinguish Welsh food products in the worldwide market. As presented by the great work done by GM Free  Cymru and by key scientists such as Irina Ermakova, Professor Vyvyan Howard and Malcolm Hooper, Dr Stanley Ewen, Dr Arpad Pusztai, Manuela Malatesta and colleagues at the Universities of Pavia and Urbino in Italy to name a few, there is now overwhelming evidence available about the inherent dangers of GM foods.

GM Free Cymru’s Dr Brian John states that: “The European Commission appears to be intent upon issuing one contentious and GM authorization after another, basing its decisions upon highly selective and biased research by the applicants themselves, and taking guidance from a despised European food safety authority which has lost the confidence of Ngo’s and consumer groups across Europe.”

Politicians are blindly promoting the merits of the large biotechnology companies such as Monsanto in spite of massive opposing public and scientific voices. Patenting nature and intervening through genetic engineering is also an act against nature itself and brings in to question morality, ethics, natural and human rights. An increasing number of countries such as Hungary, Austria, Greece, the Basque country and Peru, to name but a few, are now expelling the chemical and bio tech giant Monsanto and eliminating all GM crops, seed, plants and foods from their country. We urge the Welsh Government to do the same in Wales.

Please sign here:

https://www.assemblywales.org/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=983

Advertisement