6000MW o Lagwns i Gymru yn lle’r barrage

 

severn-tidal-map

(Copi o lythyr wedi’w yrru i rai o wleidyddion Cymru yr wythnos yma)

Annwyl gynrychiolydd,

Dwi’n siwr eich bod yn derbyn nifer o ebysts bob wythnos ond gobeithio y bydd yr un yma yn dal y sylw. Cefais sgwrs ar ebost gyda aelod o fwrdd Tidal Electric Inc (Abertawe), Amir Eilon yn ddiweddar, ar ol  ei holi be ydi’r diweddaraf ynglyn a dyhead Tidal Electric i ddatblygu lagwns oddi ar arfordiroedd Cymru. Mi gadarnhaodd fod dal gyfle i adeiladu gwerth 6000MW o lagwns yn nyfroedd Cymru ar gost o tua £1.5 miliwn y Megawatt. Dwi’n siwr eich bod wedi clywed am y cynlluniau o’r blaen ond dwi’n yn gobeithio fod yr ebost yma yn help i’ch atgoffa am y peth. Yn fy marn i mae eu cynlluniau yn dangos faint mor anymarferol a gwastraffus o ddrud ydi’r cynlluniau i wario £25 – £35 biliwn ar y barrage tra fod cynlluniau Tidal Electric yn llawer mwy ymarferol a llai costus.

Rwyf i a llawer eraill o’r farn y dylie cynlluniau Tidal Electric gael eu cefnogi a’i cario allan cyn i Gymru golli y cyfle euraidd yma a cyn i Tidal Electric bacio eu bagiau a symud eu lagwns i ddyfroedd Lloegr yn lle. Mae hyn yn rywbeth mae Amir yn nodi y  bydd bosib rhaid gwneud os na fydd mwy o gymorth yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i alluogi i’w datblygiadau ddigwydd. Dyma ddyfyniad gan Amir, sy’n aelod o fwrdd Tidal Eletric Inc ag yn rhan o Eilon & Associates sy’n cynghori Tidal Electric Inc, yn ol y sgwrs ebost a gafwyd (wedi’w gynnwys gyda caniatad llawn Amir):

“I have no opinion on Welsh self-sufficiency, not being Welsh myself.  But we agree the application of this technology could be of enormous benefit to Wales.  The only concern I have is that I’ve heard the Welsh Assembly is likely to stay on the fence while important politicians, like Peter Hain, continue to extol the virtues of the Severn Barrage.  On strictly economic grounds the Severn Barrage will never be built.  But if there is continuing political impasse  we may have to focus our attention on the English waters”

Bydde datblygu y lawgwns yma yng Nghymru yn amlwg yn hwb economiadd anferthol i Gymru – yn enwedig os y bydde Cymru yn datblygu ei grid trydan ei hun rhwng gogledd,  canolbarth a de Cymru er mwyn creu grid cenedlaethol ecsglwsif i Gymru. Fel yr ydych o bosib yn ymwybodol, mae Cymru yn barod yn creu dwbl yr egni y mae ei hangen, gyda’r potensial i greu oleiaf pedwar gwaith yn fwy.

Mae Cymru yn dibynnu arno chi, ein cynrychiolwyr, i gymud y camau i ddiogelu ein dyfodol economaidd hunan gynhaliol, yn arbennig yn wyneb yr argyfwng economaidd difrifol presennol. Nid oes gennyf unrhyw gysylltiad personol neu fusnes gyda’r cwmni – dim ond gwir ddiddordeb mewn gweld Cymru yn cymeryd cyfrifoldeb llawn dros ei hun.

Gellir gweld map o gynlluniau lagwns Tidal Electric yn y fan hyn:

http://tidalelectric.com/projects-uk-severn-fullmap.shtml

Gellir cael gafael ar Amir Eilon yn y fan hyn:

amir@eilonassociates.com

0208 444 1413

Diolch am eich amser. Bydde’n dda clywed unrhyw ymateb neu sylwadau ganddoch ar y mater,

Gruffydd Meredith

(https://sovereignwales.com/)

Advertisement