Deiseb/Petition: “Prohibit Online Use and Electronic Voting by Assembly Members in the Senedd Chamber”

e-Petition: Prohibit Online Use and Electronic Voting by Assembly Members in the Senedd Chamber

open quote / dyfyniad agoredWe call on the National Assembly for Wales to urge the Welsh Government to ensure that Assembly Members are prohibited from using the internet during Senedd sessions and to ensure voting in the Senedd is either done by a show of hands, orally or by paper ballot.

It is of concern that the use of the internet during Senedd debates could diminish the integrity of Welsh political debate and legislation. Debating sessions should hold the full attention of Assembly Members at all times. If Assembly Members are not fully paying attention to Senedd debates, how can they be properly relied upon to be looking out for the interests of the people they represent?

Voting should also be done using a show of hands, orally or by a paper ballot or registration to ensure full transparency. Technology and the internet are a great aid in administration and research but should not be relied upon or allowed to influence the democratic process and healthy robust political debate in general.

As reference points, the Northern Ireland Assembly Members have voted against electronic voting in their Assembly chamber. And in Scotland, whilst electronic devices are allowed as an alternative to paper notes for speaking in Scottish Parliamentary sessions, the Presiding Officer of the Scottish Parliament has prohibited internet use.close quote / dyfyniad agos

 

______________________________________

 

e-Ddeiseb: Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd

open quote / dyfyniad agoredRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cael eu gwahardd rhag defnyddio’r rhyngrwyd yn ystod sesiynau yn y Senedd, ac i sicrhau bod pleidleisio yn y Senedd yn cael ei wneud drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio.

Mae yna ofid y gall defnyddio’r rhyngrwyd yn ystod trafodaethau yn y Senedd effeithio’n negyddol ar uniondeb trafodaethau gwleidyddol a deddfwriaeth yng Nghymru. Dylai Aelodau’r Cynulliad ganolbwyntio’n llawn ar sesiynau trafod. Os nad yw Aelodau’r Cynulliad yn talu sylw i drafodaethau yn y Senedd, sut y gallwn ddibynnu arnynt i ystyried diddordebau’r bobl y maent yn eu cynrychioli?

Dylid hefyd bleidleisio drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio neu gofrestriad er mwyn sicrhau tryloywder llawn. Mae technoleg a’r rhyngrwyd yn gymorth mawr ar gyfer gwaith gweinyddu ac ymchwil ond ni ddylid dibynnu arnynt, na chaniatáu iddynt ddylanwadu ar y broses ddemocrataidd a thrafodaeth wleidyddol iach a chadarn yn gyffredinol.

O gymharu, mae Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio yn erbyn pleidleisio electronig yn siambr eu Cynulliad hwy. Yn yr Alban, er y caniateir defnyddio dyfeisiau electronig yn lle nodiadau ar bapur i siarad yn sesiynau Senedd yr Alban, mae Llywydd Senedd yr Alban wedi gwahardd defnyddio’r rhyngrwyd.close quote / dyfyniad agos

 Arwyddwch yma/Please sign here: https://www.assembly.wales/en/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=832

Advertisement